Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Tachwedd 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14180
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.23
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau ac unigolion sydd wedi'u heffeithio gan y tân yn y Fenni?
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr her 50 diwrnod newydd i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty?
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am - Llongyfarchiadau i Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ar eu llwyddiannau diweddar, gan gynnwys unigolyn a chlwb yn ennill yn y gwobrau Prydeinig
Gwnaeth Jane Dodds ddatganiad am - 90 mlynedd o Neuadd Les y Glowyr Ystradgynlais (7 Gorffennaf)
Dechreuodd yr eitem am 15.48
NDM8718 Buffy Williams (Rhondda)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024, a'r fersiwn hawdd ei deall a osodwyd hefyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.48
NDM8720 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adfer safleoedd glo brig, a osodwyd ar 8 Awst 2024.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024. Ymatebodd (Saesneg yn unig) preswylwyr Abertawe ar 22 Awst 2024. Ymatebodd (Saesneg yn unig) Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar 13 Medi 2024.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8721 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai 14 Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.
2. Yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog wedi sefyll dros Gymru a sicrhau'r gwelliannau y mae pobl Cymru yn eu haeddu.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
0 |
39 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi amlinellu gweledigaeth newydd gynhwysfawr ar gyfer ei Llywodraeth.
Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi llwyddo i wneud yr achos yn ddigon cryf gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros:
a) cyflwyno fformiwla cyllido teg i gymryd lle fformiwla Barnett;
b) datganoli Ystad y Goron;
c) digolledu Cymru’n llawn am wariant ar HS2;
d) gwrthdroi’r penderfyniad i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i rai pensiynwyr; ac
e) cael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
42 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan gynnwys:
a) sefyll i fyny dros deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru;
b) sefyll i fyny dros y GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol; ac
c) sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â thomenni glo nas defnyddir.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
25 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai 14 Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.
2. Yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan gynnwys:
a) sefyll i fyny dros deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru;
b) sefyll i fyny dros y GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol; ac
c) sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â thomenni glo nas defnyddir.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
25 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.53
Dechreuodd yr eitem am 18.57
NDM8717 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol - pla Cymru heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2024